GADEWCH I NI GYFLWYNO PLESER
LET US INTRODUCE PLESER
Cwmni teuluol yw Pleser, sydd wedi bod yn masnachu ym Mhontarddulais ers dros 30 o flynyddoedd. Mae Marian Williams a’i merched, Llinos Davies ac Eiriol Rees, ynghyd â staff cyfeillgar a gwybodus y siop, bob amser yn barod i gynghori cwsmeriaid am ddillad ar gyfer priodasau o bob math – o eglwys gadeiriol grand i draeth mewn gwlad dramor, boeth, a phopeth rhwng y ddau.
Eisiau priodas ar thema’r 1920au? Dim problem! Beth os yw’r briodferch yn caru polka-dots? Gallwn wneud hynny, wrth gwrs! Neu mae pob un o ferched y briodas, o’r flodeuferch i fam-gu’r briodferch, i gyd eisiau gwisgo dillad mewn lliwiau tebyg, ond mewn arddull wahanol. Gwych! Rydym ni’n barod i wisgo pawb o’r corun i’r sawdl mewn dillad bendigedig, unigryw, sy’n mynd i wneud diwrnod arbennig yn un bythgofiadwy.
​
Rydym yn darparu gwasanaeth newidiadau i'n cwsmeriaid ni.
​
Dewch i Pleser, i gael profiad unigryw, cyfoes, Cymraeg, teuluol, sy’n sicr o wneud i bawb ofyn ‘O! Ble gawsoch chi’r dillad hyfryd yna?’ i ni, dim ond un ateb sydd…. ‘Pleser!’
​
Pleser is a family business that has traded out of Pontarddulais’ Manchester House shop for over 30 years. Marian Williams and her daughters, Llinos Davies and Eiriol Rees, along with their welcoming and knowledgeable staff, are always ready to advise customers about costumes for all kinds of weddings – from the grandeur of a cathedral wedding to the informality of an overseas beach wedding, and everything in between.
You want a 1920s theme? No problem! The bride loves polka dots? Of course, we can do that. Maybe all of the ladies of the wedding party, from the tiniest flower girl to the bride’s granny want to dress in the same colour, but in different styles. Great! We can’t wait to dress everyone from head to toe in gorgeous, unique clothes, which will guarantee that a special day becomes unforgettable.
​
We provide an alterations service for our customers.
Come to Pleser to experience a unique, modern, Welsh, family atmosphere, which will guarantee that guests at the wedding will swoon, ‘Oh! Where did you get your gorgeous clothes” For us, there can only be one answer: “Pleser!”